LLYFR 1 ACADEMI DELYN CATRIN FINCH
Bydd Llyfr 1 Academi Delyn Catrin Finch, sy’n cael ei ryddhau yng ngwanwyn 2021, yn eich helpu ar hyd y llwybr cywir gyda'ch canu telyn. “Techneg dda yw sail canu telyn gwych. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael athrawon telyn gwych a oedd yn sicrhau bod hanfodion fy nhechneg a fy nghanu yn gadarn o'r cychwyn cyntaf. Rwyf wedi credu erioed bod seiliau techneg yr un peth i ni i gyd, ac ar ôl eu meistroli, gallwn addasu a dod o hyd i'n ffyrdd unigryw ein hunain o ganu. P'un a ydych chi'n newydd i’r delyn neu yn fwy profiadol, bydd cynnwys y llyfr hwn yn berthnasol i chi.
Yn ogystal â'r ymarferion, mae Catrin wedi cyfansoddi pedair astudiaeth newydd i'ch helpu chi i ddod ag agweddau penodol ar dechneg at ei gilydd mewn profiad sy'n rhoi boddhad cerddorol. Felly ewch ati i wneud i’r tannau telyn ganu a dechreuwch weithio gyda Catrin heddiw!
Cefnogwyd y cynllun yma gan arian y Loteri Genedlaethol
drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

CATRIN FINCH - Pictures : five contemporary pieces for harp
Ar gael am y tro cyntaf fel un cyhoeddiad, mae darnau cyfoes Catrin ar gyfer y delyn,Clear Sky, Sunflower, Môr Arianrhod ac Aurora bellach yn cynnwys pumed darn, Endless Sky.
“Pictures yw’r cyntaf mewn cyfres o ddarnau gwaith ar gyfer y delyn unigol a gyfansoddwyd rhwng 2015 a 2020. Casgliad o bum darn gwahanol, ysgrifennwyd Clear Sky ac Aurora ar gyfer fy albwm hunan-gyfansoddedig cyntaf, Tides. Comisiynwyd Sunflower gan Ganolfan Delynau Tamnak Prathom yn Bangkok ar gyfer y Drydedd Ŵyl Delyn a Chystadleuaeth Ieuenctid Ryngwladol Gwlad Thai, a Môr Arianrhod gan Ganolfan Gerdd William Mathias ar gyfer y Gystadleuaeth Ieuenctid ym Mhedwaredd Ŵyl Delyn Ryngwladol Cymru. Yn fwy diweddar, ysgrifennwyd Endless Sky yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn 2020.”